CYRRAEDD YMA
Cyrraedd Yma
Cod Llywio â Lloeren
Bydd SA31 1QU rhif 4 Heol y Gwyddau yn dod â chi i fynedfa’r maes parcio.
Mae Canolfan Siopa Rhodfa’r Santes Catrin yng nghanol tref Caerfyrddin mewn ardal ar gyfer cerddwyr y tu ôl i Marks and Spencer a ger y farchnad dan do boblogaidd.
Os byddwch chi’n teithio tua’r Gorllewin ar yr M4 gadewch ar gyffordd 49 a dilynwch yr A48 i Gaerfyrddin cyn ymuno â’r A4242 sy’n mynd i ganol y dref gan ddilyn arwyddion Rhodfa’r Santes Catrin. Os byddwch yn teithio tua’r Dwyrain i Gaerfyrddin, dilynwch yr A40 a gallwch ddod o hyd inni o’r De ac o’r Gogledd ar yr A48, gan ddilyn arwyddion am ganol y dref.
Rydym tua 5 -10 munud ar droed o’r orsaf bysiau ac ychydig yn bellach o’r orsaf trenau.




