DIGWYDDIADAU DIWEDDAR
Croeso i Rodfa’r Santes Catrin
Torrwyd y rhuban gan enillydd ein gwobr arbennig gyda’r Carmarthen Journal i swn ffanfer y trwmpedau. Parhaodd yr hwyl ar gyfer y teulu cyfan drwy’r dydd yng nghwmni dynwaredwyr Laurel a Hardy, clowniaid a phobl
ADORCHUDDIO CERFLUNIAU RHODFA’R SANTES CATRIN
Caiff y rhai a greodd y pedwar cerflun maint llawn gyfle i gael y cip cyntaf ar eu gwaith ar brif sgwâr Rhodfa’r Santes Catrin.
Cynhyrchwyd y cerfluniau dur gwrthstaen o borthmon, dafad, gwydd a chi defaid dros gyfnod o naw mis, dan arweiniad Tony Woodman, dylunydd gwaith metel lleol a gofalwr lleoli oedolion, gyda chymorth chwech o ddefnyddwyr y gwasanaeth. Cynhelir seremoni ddadorchuddio yn y safle ar ddydd Llun 26 Ebrill, pan gaiff cynrychiolwyr Simons, Cyngor Sir Caerfyrddin, staff lleoli oedolion a ffrindiau a theuluoedd y cyfle i weld y gwaith.
Gosodwyd y cerfluniau ar Faes y Ffair, rhan newydd o’r datblygiad y tu allan i’r sinema, Frankie and Benny’s, Pizza Express a New Look. Cawsant eu creu er mwyn nodi hanes Caerfyrddin a lleoliad Rhodfa’r Santes Catrin.
Deborah Kerrigan, Swyddog Lleoli Oedolion Cyngor Sir Caerfyrddin, a fu’n cydgysylltu’r prosiect: “Mae defnyddwyr y gwasanaeth wedi bod yn rhan o’r prosiect ers mis Awst 2009, gan droi brasluniau cychwynnol yn bedwar cerflun gwych o faint llawn. Mae pawb sy’n rhan o’r prosiect yn hynod falch i’w gweld yn cael eu harddangos, ac ry’n ni wrth ein bodd o fod wedi gallu cymryd mantais o’r fath gyfle prin.”
Meddai Mr Woodman: “Dros gyfnod y prosiect, mae’r bobl hyn wedi dysgu sut i gynllunio, defnyddio gwahanol offer, torri a glanhau dur gwrthstaen, a gloywi’r cynnyrch terfynol hyd yn oed. Rwy wedi’u gweld nhw’n newid a gweld eu hunanhyder nhw’n tyfu yn sgil cymysgu gyda phobl eraill a gweithio mewn grwp bach. Mae un ohonyn nhw nawr yn gobeithio dilyn cwrs celf ac mae un arall ar fin dechrau. Rwy wedi mwynhau gweithio gyda nhw’n fawr ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n bwrw ymlaen i bethau pellach.”
Meddai June Harvey, Uwch Reolwr Prosiect Simons: “Ry’n ni wrth ein bodd o fod wedi gallu cynnig y cyfle i bobl leol gyfleu eu creadigrwydd. Mae’r cerfluniau yn rhoi bywyd i’r sgwâr ac yn rhoi gorffeniad rhagorol i gynllun gwych. Mae’n dda iawn bod pobl wedi cael budd o fod yn rhan o’r broses ac y gallan nhw ddod draw i weld canlyniad eu gwaith caled.”
Yr oedolion sy’n rhan o brosiect y cerfluniau yw Rhian Evans, Samantha Hall, Joanne Harries, Rory Westhoff, Kevin Hill a Michael O’Sullivan.




