DIGWYDDIADAU
Ymunwch â ni
Os hoffech ddod â’ch elusen neu’ch cymdeithas i Rodfa’r Santes Catrin er mwyn dangos eich doniau, i godi ymwybyddiaeth, i gasglu arian at elusen leol neu er mwyn diddanu’r cyhoedd, rhowch wybod inni.
Rydym wedi ymrwymo i wreiddio Rhodfa’r Santes Catrin yn y gymuned ac mae’r sgwâr ger Sinema Apollo yn lle delfrydol i lwyfannu doniau lleol.
Cysylltwch â Victoria Evans, Rheolwr y Swyddfa, Rhodfa’r Santes Catrin drwy ebostio victoria.evans@stcatherineswalk.com




