CROESO
Croeso cynnes gan Mike Pugh, Rheolwr y Ganolfan
Croeso i’r hyn fydd yn ychwanegiad gwych at Ganol Tref sydd eisoes yn ffynnu yng Nghaerfyrddin.
Gyda chymaint o siopau newydd a gwledd o adloniant a chyfleoedd bwyta i’r teulu, rydym yn gobeithio diwallu anghenion ein trigolion lleol a’r dylifiad mawr o ymwelwyr y mae’r dref yn eu croesawu bob Haf.
Mike Pugh, Rheolwr Canolfan Siopa Rhodfa’r Santes Catrin
Yn wahanol i gymaint o Ganol Trefi sy’n tawelu gyda’r nos rydym am weld Canolfan y Santes Catrin yn fwrlwm o weithgarwch trwy gydol yr wythnos. Dyna pam rydym mor falch o ddod â bwytai newydd i’r dref, heb anghofio ein Sinema Apollo newydd sbon.
Rydym hefyd wedi trefnu amserlen lawn o hwyl i’r teulu a bwriadwn barhau i fod yn rhan amlwg o fywyd y dref trwy gynnig adloniant stryd rhyngwladol a chyfle i berfformwyr ifanc Sir Gaerfyrddin arddangos eu doniau.
Os ydych yn cynrychioli cymdeithas, clwb chwaraeon neu elusen lleol, rhowch wybod, mae Canolfan Rhodfa’r Santes Catrin yn awyddus i wreiddio’i hun yn y gymuned yn ogystal â’r economi.
Ychydig o wybodaeth am Mike.
Penodwyd Mike Pugh yn Rheolwr Canolfan Rhodfa’r Santes Catrin. Dyma’r datblygiad Siopa a Hamdden 245,000 tr. sg. newydd ynghanol Caerfyrddin. Mae gan Mike dros 34 o flynyddoedd o brofiad rhyngwladol ym meysydd adwerthu, hamdden, lletygarwch a rheoli canolfannau siopa. Ei swydd ddiwethaf oedd Cyfarwyddwr Mall Varna, canolfan 950,000 tr. sg. ym Mwlgaria, a agorodd ei drysau ym mis Mehefin 2009.
“Mae’n wych bod nôl yng Nghymru” meddai Mike, “Roedd mam-gu a ‘nhad-cu yn byw yn Llanfechain ger y Trallwng ac rwyf innau wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd a Phontypridd. Rwy’n gynhyrfus iawn am y cyfleoedd y gall Rhodfa’r Santes Catrin eu cynnig i Gaerfyrddin.”
“Mae’r dewis o siopau newydd a mwy, ynghyd â Sinema Apollo a bwytai rhyngwladol yn bleidlais fawr o hyder yng Nghaerfyrddin. Fy ngwaith i fydd gofalu fod y cyfleusterau newydd yn cael eu hintegreiddio i ganol y dref er mwyn denu mwy o siopwyr ac ymwelwyr i Gaerfyrddin,” meddai Mike. “Mae pawb yn y prosiect yn benderfynol o godi proffil Caerfyrddin, trwy agor Cam 1 yn Rhodfa’r Santes Catrin ar 30 Ebrill 2010, a gwneud popeth posib i ddenu mwy o fusnes trwy gydol y flwyddyn – ar yr adegau tawelach yn ogystal â’r cyfnodau prysur.”
“Yn ogystal â chwarae ein rhan ym mywyd masnachol Caerfyrddin, rydym eisiau creu canolbwynt i’r gymuned leol, ac yn y cynllun mae’r penseiri wedi creu sgwâr cyhoeddus newydd lle yr hoffem weld perfformiadau ac arddangosiadau i adlewyrchu safon uchel y gwaith artistig a chwaraeon y mae’r rhan hon o Gymru yn enwog amdano,” medd Mike, sy’n rhedwr mynyddoedd brwdfrydig ei hun. “Byddwn yn falch o gael awgrymiadau ar sut y gall Rhodfa’r Santes Catrin fod yn rhan o fywyd y cylch, er mwyn adeiladu ar galendr presennol y gweithgareddau a gofalu fod canol y dref yn llawn bywyd o fore gwyn tan nos, wrth i’r sinema a’r bwytai gymryd lle’r siopau er mwyn denu ymwelwyr.”





