POLISI PREIFATRWYDD
Polisi Preifatrwydd Rhodfa’r Santes Catrin
Dylid darllen y polisi preifatrwydd hwn ar y cyd â’r telerau ac amodau. Darllenwch y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus gan ailddarllen y dudalen hon o bryd i’w gilydd i weld unrhyw newidiadau allai fod wedi’u gwneud. Mae Rhodfa’r Santes Catrin yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd yr Wybodaeth Bersonol a roddwch i ni drwy ein gwefan. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn caniatáu i ni gasglu a defnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn:
1.1 Rydych yn awdurdodi Rhodfa’r Santes Catrin i ddefnyddio, storio neu brosesu unrhyw wybodaeth bersonol, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i’ch enw a’ch cyfeiriad, sy’n eich Adnabod yn Bersonol (“Gwybodaeth Bersonol”) i’n galluogi ni, ein cysylltiadau, ein partneriaid, olynwyr, cysylltwyr, isgontractwyr a thrydydd partïon eraill (sef ein “Cwmnïau Partner”) i ddarparu’r wybodaeth am ddatblygiadau a gwasanaeth sy’n rhan o’n gwefan, neu a ddisgrifir arni neu sydd ar gael drwy’r wefan.
1.2 Gallwn ni, neu unrhyw aelod o Land Securities Group, ddefnyddio’r Wybodaeth Bersonol i anfon gwybodaeth atoch am ddatblygiadau neu weithgareddau newydd a allai fod o ddiddordeb i chi, oni bai eich bod yn dewis i ni beidio â chysylltu â chi fel y disgrifir ar ddiwedd y Polisi Preifatrwydd hwn. Os hoffech i ni anfon eich Gwybodaeth Bersonol at ein Cwmnïau Partner er mwyn iddynt allu cysylltu â chi gyda manylion am ddatblygiadau neu weithgareddau a allai fod o ddiddordeb i chi, cysylltwch â ni fel y nodir ar ddiwedd y Polisi Preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ymwybodol y gallai Cwmnïau Partner fod wedi’u lleoli mewn gwledydd y tu allan i’r AAE.
1.3 Gallwn drosglwyddo neu ddatgelu Gwybodaeth Bersonol i’n hymgynghorwyr proffesiynol ac i bartïon eraill fel y byddwn yn ystyried yn angenrheidiol er mwyn gweinyddu’r wefan a busnes cysylltiedig neu os bydd angen, i ddatgelu gwybodaeth o’r fath drwy’r gyfraith.
1.4 Gallwn gronni ystadegau, ymatebion i unrhyw arolygon a holiaduron, patrymau traffig a gwybodaeth gysylltiedig ar y wefan a datgelu data cronnus o’r fath i drydydd partïon at ddibenion marchnata, hysbysebu neu unrhyw ddibenion hyrwyddo eraill ond ni fydd data cronnus o’r fath yn cynnwys unrhyw Wybodaeth Bersonol. Er mwyn ein galluogi i fonitro a gwella ein gwefan, rydym yn casglu a chofnodi ar ein gweinyddwyr rai gwybodaeth gronnus amdanoch chi pan fyddwch yn ei defnyddio, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r URL a ddaw gennych ac y byddwch yn mynd iddynt a rhannau o’r wefan y byddwch yn ymweld â nhw. Defnyddir gwybodaeth o’r fath yn bennaf i wella eich profiad ar-lein.
1.5 Rydym yn defnyddio ffeiliau bach a gaiff eu storio ar eich gyriant caled gan ein porwr (“cwcis”) i fonitro eich defnydd o’r Wefan yn ystod yr amser y byddwch yn ei defnyddio. Fodd bynnag nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth mae’r cwcis hyn yn eu casglu ar ôl i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan.
1.6 Mae’n rhaid i chi bob amser sicrhau bod y Wybodaeth Bersonol a roddwch yn gywir ac yn gyflawn a rhaid i’ch holl fanylion cofrestru (pan yn briodol) gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad iawn ac unrhyw fanylion arall y gofynnir amdanynt. Byddwch yn ein hysbysu o unrhyw newidiadau i’r rhain cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion.
1.7 Chi yn unig sy’n gyfrifol am eich Gwybodaeth Bersonol a gallwn gymryd unrhyw gamau o ran eich Gwybodaeth Bersonol yr ydym yn ystyried yn angenrheidiol neu’n briodol os credwn y gallai achosi unrhyw golled, atebolrwydd neu niwed masnachol i ni.
1.8 Er ein bod yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich Gwybodaeth Bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw Wybodaeth Bersonol y byddwch yn ei datgelu ar-lein. Rydych yn derbyn y goblygiadau diogelwch cynhenid o ddelio ar-lein ac ni fyddwch yn ein gwneud yn gyfrifol am unrhyw ddiogelwch a dorrir heblaw bod hynny’n cael ei achosi yn sgîl esgeulustod penodol Rhodfa’r Santes Catrin.
1.9 Gallwch ddewis peidio â chael gohebiaeth gennym ni drwy anfon e-bost i manager@stcatherineswalk.com




