SIOPA
Oriau agor y siopau
Llun i Iau 9:00 i 18:00
Dydd Mercher 9:00 i 19:00 – Siopa Hwyr
Sadwrn 9:00 i 18:00
Sul 11:00 i 17:00
Llun Gwyl y Banc 9:00 i 18:00
Profiad Newydd i Siopwyr Caerfyrddin
Mae yng Nghaerfyrddin gyfoeth o siopau arbenigol a marchnadoedd traddodiadol, a bu’n gyrchfan i siopwyr ers amser maith sy’n dymuno cael diwrnod gwreiddiol a diddorol o therapi siopa. A chyda siop adrannol Debenhams a llu o siopau stryd fawr poblogaidd eraill, mae’r dref bellach wirioneddol yn dod i oed. Mae’r maes parcio, sydd â lle i 950 o geir, a’r cyfoeth o fwytai yn golygu mai Canolfan Siopa Rhodfa’r Santes Catrin yw’r lle perffaith i gychwyn ar daith, a chewch eich denu i aros yn hirach gan y sgwâr i gerddwyr a’r bensaernïaeth gyfoes.
Bydd y rhai sy’n hoff o ffasiwn yn dwlu ar y casgliadau newydd yn ein siopau steilus megis Top Shop, Top Man, Quiksilver a River Island.
Ceir gwerth am arian o hyd yn New Look ac yn Next ac nid dillad yn unig sydd yn Debenhams – ceir yno bersawrau, nwyddau harddwch, bagiau ac ategolion o safon ryngwladol. A cheir y ffasiynau diweddaraf o ran sbectolau a sbectolau haul yn Vision Express.
Ac mae digon at ddant y dynion hefyd yn Cotswold, y siop sy’n arbenigo mewn nwyddau awyr agored, a’r Carphone Warehouse i’r rhai sy’n hoff o declynnau technolegol, sy’n golygu y gall y teulu cyfan gael diwrnod o siopa wrth eu bodd.
Rhodfa’r Santes Catrin– Rydym yma ichi.




