TEL: 01267 243040 | SAT NAV SA31 1QU | ENGLISH | CYMRAEG | CONTACT US
Croeso Rhodfa'r Santes Catrin

SINEMA

SINEMA CHWE SGRIN APOLLO

Ar agor o 10am hyd yr hwyr, 7 diwrnod yr wythnos

Dyma’r sinema gyntaf o’i bath yn Ewrop gyda phob sgrin yn llwyr-ddigidol ac yn 3D. Dyma hefyd y sinema ddigidol gyntaf yng Nghymru sydd wedi’i chodi’n bwrpasol. Mae ganddi daflunwyr Sinema Sony Digidol 4k sy’n cynnig y profiad gorau un wrth wylio ffilm 3D. Mae modd dod â chadeiriau olwyn i bob rhan o’r sinema ac mae gan bob sgrin fannau neilltuol i gadeiriau olwyn.

Mae gan bob sgrin hefyd ddolen anwythol ar gyfer pobl sy’n drwm eu  clyw. Mae pob sgrin o’r radd flaenaf wedi’u haerdymheru ac mae ganddynt y systemau sain diweddaraf.

Mae’r bar trwyddedig ar agor bob dydd i’n cwsmeriaid dros 18 oed, yn gweini detholiad eang o wahanol winoedd, gwirodydd a chwrw.

Mae Costa Coffee yma hefyd sydd ar agor bob dydd, ynghyd â hufen iâ Haagen Dazs. Mae mannau ar gael i eistedd ac i ymlacio, a Wi-Fi rhad ac am ddim yng nghyntedd y sinema, felly galwch draw i’n gweld hyd yn oed os nad ydych am wylio ffilm.

Seddi Stadiwm : Y Seddi Gorau : Y gallu i ddangos ffilmiau 3D : Dolby Digital Surround Sound : Aerdymheredd : Bar Trwyddedig
912 o seddi yn cynnwys 179  o’r Seddi Gorau a 20 sedd ar gyfer pobl anabl : Mynediad Wi Fi

Cysylltwch â ni i dderbyn gwybodaeth ynghylch hurio ystafell ar gyfer cynadleddau neu ysgolion, ac i dderbyn gwybodaeth am ein cyfleusterau i wylio ffilm yn breifat.

Rheolwr, Alex Kardoun

I dderbyn gwybodaeth am y rhaglen ddiweddaraf ewch i

www.apollocinemas.com/apollo-carmarthen.aspx


Oriau Agor

ORIAU'R TAI BWYTA
Cliciwch am ragor>>
ORIAU'R SINEMA
Cliciwch am ragor>>
ORIAU SIOPA
Cliciwch am ragor>>