O Rodfa’r Santes Catrin i’r
Rhodfa Fodelau
Oes gen ti’r ddawn i lwyddo yn y byd modelu?
Os felly, fe allet ti gael dy ddewis yng nghystadleuaeth fodelu Rhodfa’r Santes Catrin, sy’n rhad ac am ddim. Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd â’r Carmarthen Journal.
Categorïau ar gyfer pob oed a phob maint
Oed 4 i 6, 7 i 10, 11 i 15, 16 i 29, dros 30
Diwrnodau Dewis Modelau
Dydd Llun, G?yl y Banc, 3 Mai a Dydd Sadwrn 15 Mai 12 canol dydd i 4pm ar Rodfa’r Santes Catrin. Dewis y rhai terfynol ddydd Sul 13 Mehefin 11am i 4pm
Rydym yn gwahodd oedolion, pobl ifanc a phlant o 4 oed i fyny sy’n fodelau posib i ymweld â’r Ganolfan Siopa ar y Diwrnodau Dewis er mwyn tynnu eu llun.
Bydd lluniau o bob ymgeisydd yn ymddangos mewn eitem arbennig yn y Carmarthen Journal ddydd Mercher 26 Mai. Gan ddefnyddio taflen bleidleisio yn y papur, bydd modd i ddarllenwyr ddewis eu ffefrynnau ymysg yr ymgeiswyr hyd at ddydd Gwener 4 Mehefin. Bydd yr ymgeiswyr mwyaf poblogaidd ac addawol yn cael eu gwahodd i fynychu’r rownd derfynol er mwyn dewis yr enillwyr.
I gymryd rhan, prynwch gopi o’r Carmarthen Journal o ddydd Mercher 28 Ebrill ymlaen a dewch â’ch ffurflen gais i un o’r Diwrnodau Dewis
Rhaid i bob ymgeisydd dan 16 oed lenwi’r adran ar ganiatâd rhieni ar ffurflenni cais y Carmarthen Journal cyn dod i un o’r Diwrnodau Dewis.
Y gwobrau
Bydd enillydd pob categori’n mynychu sesiwn tynnu lluniau ffasiwn ym mis Medi. Bydd y ffotograffau a dynnwyd yn cael eu defnyddio mewn eitem ar ffasiwn yn y Carmarthen Journal.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.stcatherineswalk.com
Rheolau: Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn barod i ymddangos ar ddeunydd hyrwyddo ac ar wefannau ein partneriaid. Ni fyddwn yn trafod hyn ymhellach. Dyddiad cau 15 Mai.




